P-04-385 Deiseb ynghylch rhyddhau balwnau a llusernau
Geiriad ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddeddfu yn erbyn rhyddhau balwnau a llusernau Tsieineaidd (neu lusernau awyr) i’r awyr yn fwriadol.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Bryony Bromley
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 1 Mai 2012
Nifer y llofnodion: 564
Gwybodaeth ategol: Derbyniodd Eco-bwyllgor Rhanbarthol Caerdydd (sy’n cynnwys cynrychiolwyr o eco-ysgolion baner werdd Caerdydd) gynnig yn ddiweddar i weithio tuag at gael deddfwriaeth i atal rhyddhau nifer fawr o falwnau a llusernau Tsieineaidd/llusernau awyr yn fwriadol ar yr un pryd gan eu bod yn cael effaith niweidiol ar fywyd gwyllt, ar y tir ac yn y môr.
Rhyddhau
balwnau
Cafwyd sawl achos o anifeiliaid gwyllt yn cael eu darganfod gyda balwnau latecs yn eu stumogau, a oedd yn rhwystro eu llwybr treuliad. Gall rhywogaethau morol, yn enwedig crwbanod morol a rhai adar môr, feddwl mai sglefren fôr, sy’n ysglyfaeth iddynt, yw’r balwnau ar wyneb y dŵr a’u llyncu neu efallai y byddant yn mynd yn sownd ac yn boddi. Unwaith y bydd balŵn wedi’i lyncu, gall rwystro’r llwybr treulio a gallai hynny arwain at farwolaeth drwy lwgu. Mae’r Gymdeithas Cadwraeth Forol wedi cynnal awtopsïau ar nifer sylweddol o anifeiliaid gwyllt yn y môr sydd wedi cael eu canfod wedi’u golchi ar draethau, gan gadarnhau effaith balwnau ar y llwybr treulio.
Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi hysbysebu’r risg y gall anifeiliaid sy’n pori dagu ar falwnau ac y gall falwnau halogi gwair, sydd eto’n peri risg o dagu (http://www.telegraph.co.uk/earth/agriculture/farming/8494881/Farmer-wins-compensation-after-Red-Nose-Day-balloon-kills-cow.html)
Mae ymgyrchoedd marchnata diweddar wedi awgrymu ei bod yn bosibl rhyddhau balwnau ‘ecogyfeillgar’ gan ddefnyddio balwnau bioddiraddadwy sy’n gallu pydru ar yr un raddfa â deilen Dderw.
·
Mae
lefel uchel o daninau mewn dail Derw a gall gymryd dwy flynedd iddynt bydru’n
llwyr os na chânt lefelau uchel o olau haul neu ddŵr.
Yn dilyn gwaith ymchwil a wnaed yn 2008, mae Cadw Cymru’n Daclus wedi datgan y dylid ystyried bod rhyddhau balwnau’n fwriadol yn fath o daflu sbwriel. Ers iddo ddechrau cofnodi sbwriel ar ffurf balwnau fel rhan o’i arolwg LEAMS (System Archwilio a Rheoli Amgylcheddol Lleol) yn 2008-09, mae Cadw Cymru’n Daclus wedi gweld sbwriel ar ffurf balwnau ym mhob un o 22 o awdurdodau lleol Cymru. Yn un sir, gwelwyd sbwriel ar ffurf balwnau ar 17% o’r strydoedd.
Mae’r Gymdeithas Cadwraeth Forol wedi cynnal ymgyrchoedd i atal rhyddhau balwnau ers 1996, ac mae o leiaf 23 o awdurdodau yn y DU ar hyn o bryd yn gweithredu gwaharddiad ar ryddhau nifer fawr o falwnau ar yr un pryd. Mae’r data’n dangos bod cyfanswm y sbwriel ar ffurf balwnau a geir ar draethau Cymru wedi treblu dros y 15 mlynedd nesaf yn anffodus, wrth i’r arfer ddod yn fwy poblogaidd.
Mae tua 10% o’r balwnau a gaiff eu rhyddhau i’r awyr yn disgyn i’r ddaear mewn un darn. Mae’r ffigur hwn yn uwch pan fydd rhubanau a thagiau plastig wedi’u clymu wrthynt.
http://www.mcsuk.org/downloads/pollution/dont%20let%20go.pdf
Llusernau Tsieineaidd / Llusernau Awyr
Mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi cyhoeddi rhybudd ynghylch peryglon llusernau Tsieineaidd, ar sail y ffaith eu bod yn cael eu camgymryd am ffaglau a ddefnyddir os bydd pobl mewn perygl.
Mae’r RSPCA wedi rhybuddio y gallai’r weiren sy’n llunio strwythur y llusernau achosi “anesmwythder anhygoel” i wartheg os caiff ei llyncu.
Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi galw am wahardd llusernau Tsieineaidd, oherwydd y perygl y gallent ei beri i anifeiliaid sy’n pori.
http://www.bbc.co.uk/news/magazine-11265560
Oherwydd y perygl o dân, rhybuddiodd Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân bobl i beidio â rhyddhau llusernau, gan ddweud, er eu bod yn edrych yn wych, ni ellir eu rheoli unwaith y maent yn yr awyr.
http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-13934378
Mae Cymdeithas Hedfan Iwerddon wedi amlygu’r risg y mae llusernau’n ei beri i awyrennau ac y mae’n mynnu yn awr y dylid gofyn am ei chaniatâd cyn i lusernau gael eu rhyddhau yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae hefyd yn mynnu y dylid hysbysu’r Uned Rheoli Traffig Awyr agosaf, Gwylwyr y Glannau Iwerddon a’r Orsaf Garda leol.
(Cyhoeddiad gan Gymdeithas Hedfan Iwerddon ‘Sky Lanterns and the risk to Aviation’.)